Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol                                      

 

HSC(4)-01-12 papur 1b

 

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn – Penodi cynghorydd arbenigol

 

At:                         Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Oddi wrth:            Gwasanaeth y Pwyllgorau

Dyddiad:               Ionawr 2012

 

CYNGHORYDD ARBENIGOL AR GYFER YR YMCHWILIAD I OFAL PRESWYL I BOBL HŶN — MANYLEB Y SWYDD

 

Diben

1.        Ar 8 Rhagfyr, cytunodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn.

 

2.        Mae Atodiad A i’r papur hwn yn amlinellu manyleb ar gyfer swydd cynghorydd arbenigol. Mae Atodiad B yn rhestru’r ymgeiswyr posibl ar gyfer ymgymryd â’r gwaith hwn.

 

Cefndir

3.        Mae Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn caniatáu i bwyllgorau benodi pobl i roi cyngor arbenigol iddynt.[1]I hwyluso hyn, mae’r Cynulliad yn cynnig y cyfle i unrhyw arbenigwr neu ymchwilydd gofrestru fel cynghorydd arbenigol allanol ar gyfer contractau ymchwil tymor byr drwy’r wefan.

 

4.        Diben y cyngor arbenigol yw:

-          ategu arbenigedd mewnol Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

 

-          ychwanegu gwerth at ystyriaeth Pwyllgor o unrhyw faes penodol.

Cyflawnir hyn drwy ddarparu ffynhonnell ychwanegol o wybodaeth, cyngor a chapasiti dadansoddol i bwyllgor gan barti allanol sydd ag arbenigedd penodol ac wedi’i brofi yn y maes y mae’r pwyllgor yn ei ystyried.

 

Manyleb y swydd

5.        Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael y cymorth arbenigol ychwanegol sydd ei angen arno, drafftiwyd manyleb sy’n nodi’r prif dasgau y dylai’r cynghorydd arbenigol eu cyflawni. Atodir y fanyleb yn Atodiad A.

 

6.        Mae’n rhaid i’r Pwyllgor gytuno ar y fanyleb hon cyn penodi cynghorydd arbenigol er mwyn sicrhau:

 

-        bod yr unigolyn iawn yn cael ei ddewis i ymgymryd â’r gwaith; a

 

-        bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth glir o’r rôl y mae disgwyl iddo ei chyflawni mewn perthynas â’r ymchwiliad a’r ymrwymiad cysylltiedig o ran amser.

 

Yr ymgeiswyr

7.        Mae ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor, ar y cyd â’r Cadeirydd, wedi nodi dau ymgeisydd posibl i fod yn gynghorydd arbenigol, a hynny’n seiliedig ar y fanyleb yn Atodiad A.

 

8.        Trafodwyd y cyfle i fod yn ymgeisydd gyda’r Athro Judith Phillips (Athro Gerontoleg a Gwaith Cymdeithasol, Canolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe), yr Athro Ann Netten (Athro Lles Cymdeithasol a Chyfarwyddwraig yr Uned Ymchwil ar Wasanaethau Cymdeithasol Personol ym Mhrifysgol Caint) a’r Athro Martin Knapp (Athro Polisi Cymdeithasol a Chyfarwyddwr yr Uned Ymchwil ar Wasanaethau Cymdeithasol Personol yn y London School of Economics). Yn sgil yr ymrwymiad amser a fyddai ei angen ar gyfer y gwaith hwn, nid oedd modd iddynt gynnig eu henwau fel ymgeiswyr posib.

 

9.        Petai’r Pwyllgor am newid y fanyleb neu’r rhestr o ymgeiswyr posib, gellid ceisio dod o hyd i ymgeiswyr eraill. Fodd bynnag, dylai Aelodau fod yn ymwybodol y gallai hynny arwain at oedi cyn penodi cynghorydd ar gyfer yr ymchwiliad ac y gallai gyfyngu ar ei (g)allu i gyflawni rhai o’r tasgau a restrir yn y fanyleb.

 

10.     Mae gwybodaeth am bob ymgeisydd ar gael yn Atodiad B.

 

Penderfyniad

11.     Gwahoddir y Pwyllgor i:

 

-        ystyried a chytuno ar y fanyleb ar gyfer swydd cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn (gweler Atodiad A); ac

 

-        ystyried yr ymgeiswyr a awgrymir (gweler Atodiad B), penodi cynghorydd ac awgrymu rhywun wrth gefn.

ATODIAD AMANYLEB Y SWYDD

Bydd gofyn i’r unigolyn a gaiff ei benodi’n gynghorydd arbenigol:

 

·           Roi un sesiwn friffio gyflwyniadol i’r Pwyllgor ddydd Iau 2 Chwefror 2012

Ymrwymiad amser disgwyliedig (paratoi a chyflwyno): 1 diwrnod

 

Diben y sesiwn gyflwyniadol hon fydd rhoi cyflwyniad i’r ymchwiliad a’i gylch gorchwyl a thrafod y dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi dod i law.

·           Gweithio gydag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor drwy gydol yr ymchwiliad i baratoi ar gyfer (ac, yn ôl y gofyn, fynychu) sesiynau tystiolaeth lafar Ymrwymiad amser disgwyliedig (gan gynnwys yr holl sesiynau tystiolaeth): 5 diwrnod

Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo i baratoi – neu adolygu – briff cefndir a meysydd posibl ar gyfer cwestiynau ar y dyddiadau a gytunir gan y Pwyllgor.

 

·         Gweithio gydag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor drwy gydol yr ymchwiliad er mwyn nodi’r themâu sy’n codi o’r ymchwiliad  

Ymrwymiad amser disgwyliedig: 5 diwrnod

 

Mae nodi’r themâu sy’n codi o ymchwiliad, yn enwedig cyn cynnal unrhyw sesiwn graffu gyda’r Gweinidog perthnasol ar ddiwedd yr ymchwiliad, yn allweddol er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar y prif faterion sy’n deillio o’i waith. Bydd disgwyl i’r cynghorydd arbenigol weithio gydag ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor i nodi a chrynhoi’r prif faterion sy’n deillio o’r sesiynau tystiolaeth lafar.

 

·         Rhoi sylwadau ar – a chyfrannu at – bapur yn nodi prif faterion yr ymchwiliad wrth i’r ymchwiliad dynnu tua’r terfyn

Ymrwymiad amser disgwyliedig: 1 diwrnod

 

Mae nodi prif faterion yr ymchwiliad yn sail i’r gwaith o ddrafftio adroddiad terfynol, casgliadau ac argymhellion y Pwyllgor. Bydd disgwyl i’r cynghorydd arbenigol ddefnyddio’i arbenigedd i gynorthwyo’r Pwyllgor i grynhoi’r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn themâu clir a phendant ynghyd â nodi materion ar gyfer craffu a / neu adroddiad pellach.

 

·         Adolygu a rhoi sylwadau ar adroddiad terfynol drafft y Pwyllgor, gan gynnwys prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor

Ymrwymiad amser disgwyliedig: 1 diwrnod

 

Un o brif arfau pwyllgorau’r Cynulliad yw’r gallu i gyflwyno adroddiad ar ymchwiliad. Disgwylir i’r Llywodraeth ymateb i bob adroddiad Pwyllgor ac, yn wir, mae’n ymateb i bob adroddiad – oherwydd hynny, mae’n rhaid i gynnwys, casgliadau ac argymhellion adroddiad fod yn ddigon cadarn a dylanwadol i sicrhau canlyniad mor gadarnhaol â phosibl i’r ymchwiliad.

 

·         Rhoi cyngor ychwanegol i ysgrifenyddiaeth a Chadeirydd y Pwyllgor yn ôl y gofyn

Cytunir ar yr ymrwymiad amser yn ôl yr angen, ac o fewn y telerau sydd wedi’u derbyn ar gyfer y penodiad.

 

Trafodir a chytunir ar hyn yn ôl yr angen rhwng ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor a’r cynghorydd arbenigol a gaiff ei benodi.

 


 

ATODIAD B — YR YMGEISWYR

 

Dr Diane Seddon

Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gymhwysol a Gwyddorau Gwerthuso (CYGGG), Prifysgol Bangor

 

Mae diddordebau ymchwil Dr Seddon yn cynnwys: gofalwyr a rhoi gofal; asesu a rheoli gofal; dementia; y berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol; a’r ddarpariaeth o gartrefi gofal preswyl a nyrsio. Mae wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu rhaglen ymchwil lwyddiannus mewn perthynas â gofalwyr, sydd wedi denu grantiau ymchwil gan ystod eang o gyrff ariannu, gan gynnwys yr Adran Iechyd, Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Mae Diane wedi cynghori ar ddatblygu polisi cenedlaethol, gan gynnwys bod yn gynghorydd arbenigol ar ofal cartref i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae hefyd wedi arwain adolygiadau o roi polisïau cenedlaethol ar waith, gan gynnwys gwerthuso strategaethau gofalwyr cenedlaethol yn Lloegr i’r Adran Iechyd ac yng Nghymru i Lywodraeth y Cynulliad, yn ogystal â’r gwerthusiad Cymru gyfan o’r Broses Asesu Unedig.

 

Rolau eraill:

 

-          Cydlynydd modiwl, Gwerthuso Ymchwil ac Ymarfer Ymchwil ar sail Tystiolaeth, BA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor.

 

-          Cadeirydd ac Ymddiriedolwr, Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr, Gwasanaeth Allgymorth i Ofalwyr, Gogledd Cymru.

 

-          Cynrychiolydd adran, y Coleg Bancio, Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfraith, Prifysgol Bangor.

 

-          Cynghorydd arbenigol, Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, Tŷ’r Cyffredin (2009).

 

-          Aelod:

·         Grŵp Llywio Gweithredol, NEURODEM Cymru.

·         Grŵp Datblygu Ymchwil Gofal Cymdeithasol a Thai Cymru.

·         Pwyllgor Grantiau Ymchwil Gogledd Cymru.

 

Bywgraffiad y Brifysgol:

http://www.bangor.ac.uk/so/staff/seddon.php.cy?      

 

 

 

 

Dr Catherine Robinson

Cyfarwyddwr, Canolfan Ymchwil Gymhwysol a Gwyddorau Gwerthuso (CYGGG), Prifysgol Bangor

 

Mae diddordebau ymchwil Dr Robinson yn cynnwys: polisi gofal cymdeithasol a gofal iechyd; gweithredu polisïau a datblygu ymarfer; asesu, rheoli gofal a darparu gwasanaethau; y berthynas rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol; gofal teulu; gwerthuso.

Catherine Robinson yw Cyfarwyddwr y ganolfan sydd newydd ei sefydlu, Canolfan Ymchwil Gymhwysol a Gwyddorau Gwerthuso. Cyn hynny roedd y tîm ymchwil hwn yn rhan o Gynghrair Cymru Gyfan ar gyfer Ymchwil a Datblygiad mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWARD).

Mae ei phrosiectau ymchwil presennol yn cynnwys:

-          Carers for people with mental health problems: needs assessment to service provision (Robinson, C.A., Seddon, D. and Bowen, S.)

Mae’r astudiaeth hon yn mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddealltwriaeth o anghenion, amgylchiadau ac anghenion cymorth gofalwyr sy’n gofalu am bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

-          Unified assessment in Wales: older people with complex needs and their families (Seddon, D., Robinson, C.A., Tommis, Y and Woods, R).

Bydd yr astudiaeth hon yn astudio’n hydredol brofiadau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o’r broses Asesu Unedig a’r canlyniadau dilynol. Mae Rhodri Morgan yn aelod o’r tîm ymchwil hwn.

Rolau eraill:

-          Grŵp Ymgynghorol Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru (2007- )

 

Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru, Grŵp Llywio Gweithredol (2006- )

 

-          Cydweithrediad Iechyd Meddwl Cymru, Grŵp Llywio (2005 - )

 

-          Rhwydwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Blant (2006 - )

 

-          Grŵp Llywio Rhwydwaith Ymchwil Dementia ac Anhwylderau Niwroddirywiol Cymru (2006 - )

 

-          Cyd-fwrdd Polisi Cydweithrediad Gogledd Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2005- )

 

-          Pwyllgor Strategol a Phwyllgor Grantiau Ymchwil Gogledd Cymru (2001 - )

-          Cadeirio gweithgor a gynullwyd i ystyried anghenion therapyddion lleferydd ac iaith sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion Cymraeg eu hiaith a dwyieithog (2005).

 

Bywgraffiad y Brifysgol:

http://www.bangor.ac.uk/so/staff/robinson.php.cy?



[1]Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rheol Sefydlog 17.55 [fel ar 15 Rhagfyr 2011]